SL(6)440 - Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2024

Cefndir a Diben

Mae gan rai tenantiaethau amaethyddol hawliau olynu. Yn yr achosion hyn, o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (‘Deddf 1986’), gall perthynas agos i'r tenant ymadawedig neu'r tenant sy'n ymddeol wneud cais i'r Tribiwnlys Tir Amaethyddol (‘TTA’) am gyfarwyddyd ynghylch a oes gan y berthynas yr hawl i olynu i'r denantiaeth. Un o'r profion wrth sefydlu hawl olynu yw bodloni'r TTA nad yw'r ymgeisydd eisoes yn meddiannu “uned fasnachol o dir amaethyddol” mewn man arall.  Pe bai hyn yn wir, ni fyddai'r berthynas agos yn gymwys i gael olyniaeth yn awtomatig.

Mae’r Gorchymyn yn nodi ffigurau ar gyfer incymau amaethyddol sy'n gysylltiedig ag amryfal weithgareddau ffermio ac fe'u defnyddir wrth benderfynu a yw'r tir dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” yn ystod y cyfnod perthnasol.

Y Gorchymyn presennol sydd mewn grym yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2023 sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng 12 Medi 2022 a 11 Medi 2023.  Mae’r Gorchymyn hwn yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 12 Medi 2023 a 11 Medi 2024.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Gorchymyn o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn:

1.    Rheolau Sefydlog 21.2(x): Ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod wrth eu cyhoeddi neu wrth eu gosod gerbron y Senedd.

Mae paragraffau 3 i 6 o’r Memorandwm Esboniadol yn nodi’r materion a ganlyn o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor hwn:

“3.  Mae'n ofynnol o dan Ddeddf 1986 i Weinidogion Cymru ragnodi drwy Orchymyn, unedau cynhyrchu o'r fath sy'n ymwneud â thir amaethyddol yr ystyrir eu bod yn briodol, am gyfnod o ddeuddeng mis a bennir yn y gorchymyn.  Y Gorchymyn presennol sydd mewn grym yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2023 sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng 12 Medi 2022 a 11 Medi 2023.  O ystyried na all y TTA benderfynu ar achosion olyniaeth berthnasol heb y ffigurau perthnasol, rhaid cael Gorchymyn Unedau Cynhyrchu i gwmpasu'r cyfnod o 12 mis rhwng 12 Medi 2023 a 11 Medi 2024.

 

4.     Yn hanesyddol, mae Gorchmynion Unedau Cynhyrchu bob amser yn cynnwys elfen ôl-weithredol oherwydd mae'n dibynnu ar bryd mae'r ystadegau sylfaenol ar gael gan DEFRA, ac yna mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu trin er mwyn llunio'r ffigurau perthnasol ar gyfer Cymru.  Nid oedd y ffigurau hyn ar gael tan 13 Medi 2023. (Ychwanegwyd pwyslais).

 

5.     Mae achosion sydd wedi symud ymlaen i'r TTA ers 12 Medi 2023 wedi'u gohirio tan i'r Gorchymyn gael ei wneud.  Ar hyn o bryd mae chwe chais a fyddai'n cael eu heffeithio gan Orchymyn newydd.

 

6.     Bydd angen i'r ddeddfwriaeth fod yn gymwys yn ôl-weithredol rhwng 12 Medi 2023 a dyddiad dod i rym y Gorchymyn.  Caniateir hyn yn benodol gan baragraff 4b o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 sy'n darparu y bydd y Gweinidog drwy orchymyn, am unrhyw gyfnod o 12 mis a bennir yn y gorchymyn, yn penderfynu mewn perthynas ag unrhyw unedau cynhyrchu rhagnodedig y swm sydd i'w ystyried fel yr incwm blynyddol net o'r uned honno yn y cyfnod hwnnw.”

Mae’r Pwyllgor yn nodi bod sawl achos olyniaeth a ddygwyd gan unigolion ledled Cymru i bob pwrpas wedi’u gohirio ers mis Medi 2023 gan eu bod wedi gorfod aros am y ffigurau newydd a ddarperir gan y Gorchymyn hwn i ddatrys eu hawliadau. Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru aros am y data perthnasol gan DEFRA cyn i’r Gorchymyn gael ei ddrafftio. Fodd bynnag, daeth y data hyn i law ar 13 Medi 2023. Nid yw’n glir pam mae pum mis arall wedi mynd heibio erbyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym, ac yn ystod y cyfnod hwnnw nid yw unigolion wedi gallu bwrw ymlaen â’u hachosion olyniaeth.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

23 Ionawr 2024